Follow us on
Follow us on Twitter
Follow us on Facebook

The Pembrokeshire Tourism Blog

Pwt y Cwt yn Nanhyfer

Pembrokeshire Tourism - Monday, April 01, 2019

Pwt y Cwt yn Nanhyfer

Roedd y Cennin Pedr yn gloywi ochrau’r ffordd wrth i ni yrru i Nanhyfer, pentref yng Ngogledd Sir Benfro, a’r haul yn disgleirio mewn awyr las, las. Parcion ni wrth Eglwys Nanhyfer ac arhosais i'm perchennog fy ngadael i allan. 'Mae'n ddiwrnod braf am bicnic,' meddai, wrth roi fy nhennyn arna i. Fe neidiais allan o'r car ac edrych o gwmpas. Y peth cyntaf diddorol a welais oedd strwythur cerrig wrth fynedfa'r fynwent. Roedd pum gris yn mynd i fyny un ochr, rhan wastad ar ben y wal, a phum gris i lawr yr ochr arall. Fe dynnais ar fy nhennyn a throtian draw ato. Cerddais i fyny'r pum gris ac eistedd i lawr. Mae'n debyg mai esgynfaen neu garreg farch yw hwn a ddefnyddid gan y bonedd erstalwm i fynd a dod oddi ar eu ceffylau. Fe godais fy nhrwyn a gwynto’r awyr yn ffroenuchel ac aros i geffyl gyrraedd. Ond ni ddaeth yr un. 'Dere mlaen,' meddai fy mherchennog, 'Awn ni i gerdded yn y fynwent'.

Sefydlwyd yr Eglwys wreiddiol ar y safle hwn gan bererin o'r enw Brynach yn 540 O.C. Ond wrth i ni gerdded i mewn i’r fynwent fe gymerais olwg i fyny ar y tŵr oherwydd dyma'r rhan gynharaf o'r eglwys bresennol, gafodd ei hadeiladu ym 1380. Adeiladwyd y gangell a chorff yr eglwys rhwng 1420 a 1450, yn ystod cyfnod pensaernïol a elwir y Perpendicwlar Diweddar, a nodweddid gan linellau fertigol. Ac yr oeddech chi’n meddwl fy mod yn treulio fy amser i gyd yn darllen cylchgronau cŵn.

Ar ddwy ochr y llwybr sy'n arwain at yr Eglwys mae rhodfa o goed yw.  Fe aethon ni oddi ar y llwybr i gael golwg ar yr ail goeden ar y dde. Gelwir hon 'Yr Ywen Waedlyd' oherwydd yr hylif coch sy'n diferu o'i hochr. Mae llawer o chwedlau a storïau am achos y rhyfeddod hwn. Ond mae'n debygol mai dŵr glaw sy'n diferu allan, ar ôl cael ei liwio'n goch gan y pren marw yng nghanol y goeden. Ceir rhai henebion hen iawn yn y fynwent gan gynnwys Croes Celtaidd o’r 10fed ganrif a hefyd y Garreg Vitialanus fel y'i gelwir o'r 5ed neu’r 6ed ganrif. Roedd digon o arogleuon diddorol yn y fynwent hefyd, nad oedd yn syndod gyda’r holl wahanol fathau o flodau gwyllt sy’n tyfu yno - gwnaed arolwg yn y 1980au a chofnodwyd 147 o rywogaethau gwahanol.

Penderfynodd fy mherchennog y byddai’n well peidio mynd â fi i mewn i'r eglwys. Ond siaradon ni â chwpl oedd yn dod allan a dywedon nhw fod yna lawer o bethau diddorol i'w gweld y tu mewn, a llyfrynnau gwybodaeth defnyddiol hefyd. Cerddon ni allan o'r fynwent ac eisteddodd fy mherchennog ar fainc wrth y garreg farch yn gwylio’r nant yn llifo heibio.

Ar ôl ychydig, roeddwn yn dechrau teimlo eisiau bwyd ac roeddwn yn hapus pan ddywedodd fy mherchennog: 'Awn ni i gael y picnic o'r car.' Fe aethon ni draw a nôl ei bag o’r car, roeddwn i'n gwybod oedd yn cynnwys rhai o fy hoff ddanteithion yn ogystal â'i brechdanau hi. Dechreuais ei thynnu yn ôl tuag at y fainc, ond meddai, 'Na, rydyn ni'n mynd i fwyta yn y Castell’. Castell? Pa gastell? Y peth nesaf roedden ni’n dechrau cerdded i fyny'r ffordd serth allan o'r pentref.

Doedden ni ddim wedi mynd yn bell pan welson ni arwydd i'r chwith yn dweud, 'Croes y  Pererin'. 'Awn ni i gael golwg arno', meddai fy mherchennog. Yn amlwg doedd hi ddim mor llwglyd â fi. Beth bynnag, tua phum llath ar hugain ar hyd y llwybr yma roedd croes tua thair troedfedd o uchder wedi ei gerfio yn y graig. Yn ei waelod, gallem weld fel roedd y graig wedi gwisgo ble'r oedd pobl dros y canrifoedd wedi pen-glinio. Byddent yn aros yma cyn mynd ymlaen tua'r gorllewin i Dyddewi. Ond aethon ni yn ôl i'r ffordd a pharhau i fyny'r bryn. Cyn hir fe ddaethon ni at giât ar y dde gyda lle i gwpl o geir i barcio. Aethom drwyddo a darllen y bwrdd gwybodaeth am y castell. Ond doeddwn i ddim yn gallu gweld castell yn unman. 

Cerddon ni i lawr y llwybr gyda math o bwll ar y dde a bryn mawr y tu ôl iddo. Yna trodd y llwybr i fyny i'r dde a daeth y safle i gyd i'r golwg. Roedd mwnt mawr yng nghornel bellaf y brif ardal laswelltog. Fe dynnodd fy mherchennog fy nhennyn a rhedais i fyny’r grisiau i ben y mwnt ac archwilio gweddillion y tŵr crwn. Heddiw, dim ond dwy neu dair troedfedd o uchder sydd i’r waliau. Mae ei strwythur yn anarferol, cafodd ei wneud o lechi gyda chlai’n eu dal at ei gilydd. Cafodd y castell cyntaf, a wnaed o bridd a phren, ei adeiladu yma tua 1108 gan yr Arglwydd Eingl-normanaidd, Robert Fitzmartin. Yn ddiweddarach fe'i disodlwyd gan strwythurau cerrig, gan gynnwys y Tŵr.

Rhedais yn ôl at fy mherchennog oedd yn eistedd i lawr ar un o'r meinciau picnic ac yn bwyta’i brechdanau. Ar ôl cael cwpwl o fy hoff ddanteithion fe redais i ffwrdd eto, y tro hwn i archwilio ardal greigiog ble bu'r castell mewnol ar un adeg. Bues i'n ffroeni o gwmpas ar ei ben ac yn y ffos oedd wedi ei dorri o’r graig islaw. Sylwais ar rai marciau cŷn hyd yn oed a adawyd gan y gweithwyr yr holl ganrifoedd yn ôl.

Ar ôl mwy o archwilio clywais fy mherchennog yn galw arnaf. Roedd hi'n amser i wneud ein ffordd yn ôl i'r pentref. Wrth i ni adael safle'r castell penderfynais y byddwn i'n bendant yn ei ychwanegu at fy rhestr o hoff lefydd yn Sir Benfro.

Nodyn: Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres a ysgrifennwyd ar gyfer y Prosiect Mae Sir Benfro’n Croesawu Cŵn. Mae’r prosiect wedi derbyn arian drwy'r Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) a gefnogir drwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru. Nod y Gronfa yw annog syniadau newydd am gynhyrchion arloesol gan weithio mewn partneriaeth a fydd yn cael mwy o effaith ac yn denu mwy o ymwelwyr.




Trackback Link
http://www.holiday-pembrokeshire.co.uk/BlogRetrieve.aspx?BlogID=10650&PostID=736568&A=Trackback
Trackbacks
Post has no trackbacks.

Recent Posts


Tags

council tourism marketing VisitWales Whitesands Bay 2019 Stargazing history PR Agency Event Folly Farm Adventure Park & Zoo Dog Friendly Tourism Dark Skies pembrokeshire tourism events Year of Legends Wales strategy activity forecast Guides views Ordance-Survey community beaches 2016 surfing Oriel y Parc Ceibwr Picton Castle big blue working together positive Celtic Quest Coasteering Team 2018 ShareWales Accesible Pembrokeshire Swan Lake Bay Presipe Bay Dog Friendly Pembrokeshire Group Accommodation county pembrokeshire food Castell Henllys Ironage Fort walking Carew Castle & tidal Mill pembrokeshire tourism Nevern Newgale exercise Treath Llyfn Lindsway Bay pembrokeshire produce Pembrokeshire Tourism Awards Green Key Award winners autumn/winter guide Keep Wales Tidy Skrinkle Haven visitor Flimston Bay half term Wales, Wales Tourism Alliance, Industry, Sector Tour of Pembrokeshire Top of the Woods celtic camping and bunkhouses 2017 Bleeding Yew Manorbier B&B Weddings Industry partnership Sector Manor House Wildlife Park suppliers Bethsaida B&B visitor economy Folly Farm Adventure Park and Zoo Porthlysgi Bay village customer Pembrokeshire Coastal Path Pwll y Wrach Sustainable Tourism Amroth Castle Bullslaughter Bay Year of Discovery Destination Pembrokeshire Christmas Church Doors Ordance Survey Christmas lunch language customer service Wales Coast Path Pembrokeshire Porthclais images Accommodation Year of Adventure Musselwick Pembrokeshire beaches Heatherton World of Adventures marketing opinion open all year Wedding Venue Oli Tuggey Pembrokeshire attractions Experience The Giltar Hotel Sustainable Tourism, Environment Pembrokeshire Coast National Park charity Pets Saundersfoot Chamber for Tourism Porthsele

Archive